
Parciau Ac Ardaloedd Chwarae Lleol Torfaen
Mae parciau ac ardaloedd chwarae’n fannau gwych i blant chwilota a chael hwyl, yn yr awyr agored. Yr hyn nad yw nifer o blant ac oedolion yn sylweddoli yw, tra bod plant yn cael hwyl mewn parciau ac ardaloedd chwarae, maen nhw’n dysgu neu’n ymestyn sgiliau newydd a all gael eu trosglwyddo wedyn i fywyd pob dydd.
Dyma enghreifftiau o’r rhain:
Sgiliau Personol, Cymdeithasol ac Emosiynol
- Gwneud ffrindiau
- Rhannu a chymryd tro
- Cyfathrebu
- Gwrando
- Cydweithredu wrth chwarae
- Datrys anghydfod
- Hybu hunanhyder a hunan-barch
- Datrys problemau
Datblygiad Corfforol
- Cydlyniad
- Datblygu ymwybyddiaeth ofodol
- Cydbwysedd
- Cyflymder
- Datblygiad sgiliau echddygol bras a manwl
- Datblygu cydlyniad llygad a llaw
Datblygiad Creadigol a Dychmygol
- Datblygu gemau creu a chredu
- Actio storïau neu olygfeydd ar eu pennau eu hunain neu gydag eraill
- Chwarae Rôl
Does dim amheuaeth fod parciau ac ardaloedd chwarae’n cael effaith fawr ar blant, ond maen nhw hefyd yn cael effaith fawr ar y gymuned leol. Mae parciau ac ardaloedd chwarae lleol yn ddi-os yn rhoi lle i deuluoedd a ffrindiau dreulio amser gyda’i gilydd a chysylltu â phobl newydd. Gall cymunedau ddod ynghyd i ddod i adnabod ei gilydd, gallai hyn digwydd wrth fynd heibio neu drwy fod grwpiau lleol yn ffurfio ac yn penderfynu cwrdd yn y parciau a’r ardaloedd chwarae.
Os oes gyda chi blentyn hyd at 4 oed, mae gyda ni sesiynau Ysgol Frost y mae’r tîm Blynyddoedd Cynnar eu hwyluso.
Cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen
Ffôn: 0800 0196330E
-bost: [email protected]
Parciau Lleol ac Ardaloedd Chwarae Torfaen
I wybod ble mae parciau ac ardaloedd chwarae Torfaen, gwelwch dudalen ardaloedd chwarae Torfaen.