Rolling Hills

Ymyrraeth Gynnar - Gwybodaeth i Rieni

Yma yn Nhorfaen rydym yn ffodus bod gennym amrywiaeth o weithwyr proffesiynol profiadol a llawn gwybodaeth sy'n angerddol am weithio'n agos fel tîm. Eu nod yw cefnogi teuluoedd, darparwyr gofal plant a chwarae cofrestredig, ysgolion, gweithwyr iechyd proffesiynol, a darpariaethau cymunedol, a’u cynghori i wneud eu gorau i gefnogi plant ag anghenion datblygiadol sy'n dod i'r amlwg, a'u teuluoedd.

Gyda phwy ydw i'n siarad os ydw i'n teimlo bod gan fy mhlentyn anghenion sy'n dod i'r amlwg?

Rydym yn deall y gall fod yn amser pryderus, ac mae gwybod pwy y mae angen i chi siarad â nhw, yn gallu achosi ychydig o ddryswch. Ein cyngor yw, os ydych chi’n teimlo efallai bod gan eich plentyn anghenion sy’n dod i’r golwg, dylech ei drafod gyda’r Ymwelydd Iechyd mewn manylder. Os yw eich plentyn yn mynychu lleoliad gofal plant, gallwch hefyd siarad â’ch Darparwr Gofal Plant.

Mae Squiggles yn grŵp galw heibio a gynigir gan Flynyddoedd Cynnar Torfaen. Mae’n grŵp i deuluoedd â phlant 0-4 oed, sy’n gofidio am ddatblygiad eu plentyn. Maent yn cynnig cyngor a gwybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael i’ch teulu. Beth am alw heibio i chwarae a sgwrsio. I gael mwy o wybodaeth am sesiwn galw heibio Squiggles, cysylltwch â:

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen
E-bost: [email protected]
Rhif ffôn: 0800 019 6330

Beth Sy’n Digwydd Nesaf?

Ar ôl i chi siarad ag Ymwelydd Iechyd neu Ddarparwr Gofal Plant eich plentyn, neu os ydych wedi galw heibio un o sesiynau Squiggles a thrafod datblygiad eich plentyn ac unrhyw bryderon, efallai y byddant yn teimlo ei bod yn briodol gwneud cais am gymorth. Mae'r tîm yn gweithio gyda llawer o weithwyr proffesiynol o sawl asiantaeth, a fydd yn nodi ac yn trafod eich pryderon ac yn atgyfeirio eich plentyn at Raglen Ymyrraeth Gynnar briodol, os oes angen.

Gweler y daflen wybodaeth ‘Llwybrau Cyfathrebu’ i gael rhagor o wybodaeth am y grwpiau a'r hyn y gallwch ei ddisgwyl

Pwy yw rhai o'r Gweithwyr Proffesiynol a allai gefnogi fy mhlentyn a fy nheulu?

  • Ymwelwyr Iechyd
  • Tîm Cymorth Iaith Gynnar
  • Seicolegwyr Addysg
  • Tîm Gwella
  • Swyddogion Cymorth y Blynyddoedd Cynnar
  • Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol

Dolenni eraill er gwybodaeth

Mae SNAP Cymru yn cynnig gwybodaeth gywir, cyngor a chefnogaeth wrthrychol ynghylch ystod o achosion gan gynnwys asesiadau, datganiadau anghenion addysgol arbennig, bwlio, presenoldeb yn yr ysgol, gwaharddiadau, darpariaeth gofal iechyd a chymdeithasol, a neilltuaeth. Mae’r gwasanaethau eraill a gynigir gennym yn cynnwys eiriolaeth, datrys anghydfodau a hyfforddiant i bobl ifanc, rhieni a phobl broffesiynol.

https://www.snapcymru.org/?lang=cy

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru)