Rolling Hills

O'r diwrnod cyntaf a thu hwnt

Mae cael babi yn dod â chymaint o lawenydd i'ch bywyd. Mae wir yn amser gwych. Isod, mae ychydig o wybodaeth ac adnoddau defnyddiol sydd wedi eu cynhyrchu gan Weithwyr Proffesiynol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB) ac adnoddau defnyddiol eraill y gallwch gael hyd iddynt yn hawdd.

Fodd bynnag, os oes angen cymorth neu arweiniad arnoch, cysylltwch â Thîm Ymwelwyr Iechyd – BIP Aneurin Bevan am eu bod yma i gefnogi rhieni a gofalwyr yn Nhorfaen. Mae'r tîm ymwelwyr iechyd yn rhoi cyngor a chymorth magu plant yn y blynyddoedd cynnar. Mae ganddynt ystod o wasanaethau a rhaglenni gwych sy'n cynnwys amrywiaeth o bynciau, fel cymorth bwydo ar y fron, diddyfnu, hyfforddiant i ddefnyddio’r poti a llawer mwy.

Os oes angen i chi gysylltu â'r Tîm Ymwelwyr Iechyd yn uniongyrchol, gwnewch hynny drwy ffonio’r rhif Pwynt Mynediad Sengl 01633 431685

Bwydo

Eich dewis personol chi yw’r ffordd rydych chi'n dewis bwydo'ch babi. Rydym wedi casglu rhai dolenni gwybodaeth isod i'ch cefnogi gyda pha bynnag daith rydych chi'n ei ddewis i chi'ch hun a'ch babi. Os oes gennych unrhyw bryderon am fwydo, y peth gorau i'w wneud yw siarad â'ch bydwraig neu Ymwelydd Iechyd.

Bwydo ar y fron

Bwydo ar y fron yw'r broses o fwydo babi gyda llaeth sy’n cael ei gynhyrchu gan gorff y fam. Mae'n golygu bod y babi yn glynu wrth y fron ac yn yfed llaeth. Am ragor o wybodaeth am fwydo ar y fron, cliciwch ar y dolenni isod.

Os hoffech wybod ble mae eich mannau lleol lle gallwch fwydo ar y fron, cliciwch ar y ddolen i dudalen Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron Gwent a sgrolio lawr i’r gwaelod lle gallwch weld rhestr o’r darparwyr sydd wedi cofrestru.

Bwydo â Photel

Bwydo â photel yw'r ffordd o fwydo babi gan ddefnyddio potel gyda theth i roi llaeth iddynt. I gael rhagor o wybodaeth am fwydo â photel, cliciwch ar y dolenni isod.

Diddyfnu

Diddyfnu yw'r broses o gyflwyno'ch babi i fwydydd solet. Byddem bob amser yn argymell eich bod yn siarad â'ch ymwelydd iechyd yn gyntaf am ddiddyfnu. Mae'r dolenni isod yma i roi arweiniad os hoffech ragor o wybodaeth. Mae ganddynt wybodaeth ddefnyddiol am ddiddyfnu yn ddiogel, pa fwydydd i'w cyflwyno a'r gwahanol ffyrdd o ddiddyfnu.

Cysgu’n ddiogel

I gael gwybodaeth am yr hyn sydd ei angen ar eich babi i gysgu'n ddiogel, faint o gwsg sydd ei angen arnynt, a chael awgrymiadau ar ymdopi â blinder. Cliciwch ar y dolenni defnyddiol isod am ragor o wybodaeth. Cofiwch, gallwch hefyd siarad ag aelod o'r Tîm Ymwelwyr Iechyd

Hyfforddiant Toiled

Am wybodaeth a chyngor ymarferol ar sut y gallwch chi gefnogi'ch plentyn orau i ddysgu i ddefnyddio’r poti neu doiled, cliciwch ar y dolenni defnyddiol isod.

Cymorth Iaith a Lleferydd

Am wybodaeth a chyngor ymarferol a gweithgareddau i helpu gyda Lleferydd ac Iaith a gwybodaeth am ba gymorth sydd yna, cliciwch ar y dolenni isod.

Os oes gennych bryderon neu ofidion am Iaith a Lleferydd, y peth gorau i’w wneud yw siarad â’ch Ymwelydd Iechyd. Gallwch gysylltu â’r Tîm Ymwelwyr Iechyd yn uniongyrchol drwy ffonio’r rhif Pwynt Mynediad Sengl 01633 431685