Rolling Hills

Hyfforddiant

Ydych chi’n gweithio yn y maes Gofal plant yn Nhorfaen ar hyn o bryd? Oes angen cyngor arnoch ar hyfforddiant a chymwysterau?

Rhaglen Hyfforddi Partneriaeth Datblygu'r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant (EYDCP)

Mae EYDCP wedi ymrwymo i ddatblygu sgiliau staff sy’n gweithio gyda phlant mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar neu leoliadau gofal plant yn Nhorfaen.

Mae rhaglen hyfforddi flynyddol yn cael ei chyflwyno yn ystod y flwyddyn academaidd. Bob tymor, mae gwybodaeth am yr hyfforddiant yn cael ei hanfon at ddarparwyr gofal plant. Mae’r rhaglen hyfforddi yn darparu hyfforddiant statudol hanfodol sy’n cynnwys Diogelu Plant, Cymorth Cyntaf Pediatrig, Diogelwch Bwyd Lefel 2, Codi a Chario, Iechyd a Diogelwch gan gynnwys Asesiadau Risg.

Mae cyfleoedd hefyd i gwblhau hyfforddiant pellach, yn cynnwys Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Cod Ymarfer i Gymru, Hyrwyddo Ymddygiad Cadarnhaol, Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth a llawer mwy.

I gael gwybod mwy am hyfforddiant, cysylltwch â Chydlynydd Datblygu’r Gweithlu, ar 0800 0196 330 neu e-bostiwch [email protected]

Cliciwch yma i weld gwybodaeth Partneriaeth Datblygu’r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Torfaen - Tymor y Gwanwyn 2025.

Cymorth Cyfrwng Cymraeg i Ddarparwyr Gofal Plant

Gweler isod rai dolenni defnyddiol ar gyfer cymorth a chyrsiau cyfrwng Cymraeg.

Clebran  - Cymorth cyfrwng Cymraeg i gylchoedd chwarae a meithrinfeydd cyfrwng Saesneg nad ydynt yn aelodau o'r Mudiad Meithrin

Camau - Cyrsiau Cymraeg Gwaith pwrpasol ar gyfer y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant yw Cyrsiau Camau. Maent yn darparu'r cyrsiau hyn trwy ddulliau hunan-astudio ac maent bellach yn cynnig cwrs 60 awr o hyd, ar lefel Mynediad, Sylfaen a Chanolradd.

Dysgu Cymraeg Cymru - Chwiliwch am adnoddau Dysgu Cymraeg yma.

Addewid Cymraeg Cwlwm - Taith gefnogol, gam wrth gam i helpu eich lleoliad i dyfu, disgleirio a ffynnu yn y Gymraeg.

Helo Blod - Dyma'r lle i gael cyngor ar sut mae defnyddio mwy o Gymraeg yn dy fusnes neu elusen a chyfieithiadau hefyd.