Rolling Hills

Datganiad Cenhadaeth

"Bydd Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen yn rhoi gwybodaeth, arweiniad a chyngor o safon, sy’n hygyrch, diduedd ac am ddim, ynghylch yr ystod lawn o ofal plant, gwasanaethau i blant a phobl ifanc a gwasanaethau cymorth i deuluoedd. Bydd y wybodaeth a gedwir yn cael ei harwain gan anghenion plant a phobl ifanc, eu teuluoedd, gofalwyr, cyflogwyr, gweithwyr proffesiynol, llywodraeth leol a chenedlaethol a'u hasiantaethau."

Hawl Craidd

Yr hyn y gall ein defnyddwyr ei ddisgwyl:

  • Gwybodaeth ynglŷn â sut i gysylltu â'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd a sut y gall eu helpu drwy ddatganiad gwasanaeth;
  • Cyfrinachedd wrth ddelio ag ymholiadau ac unrhyw amgylchiadau personol;
  • Gwasanaeth sy'n ddiduedd, yn wrthrychol ac yn hygyrch;
  • Gwasanaeth effeithlon wrth drin ymholiadau a bydd y Gwasanaeth gwybodaeth i Deuluoedd yn anelu i brosesu’r ymholiad o fewn 5 diwrnod gwaith. Pan na fydd hyn yn bosibl, bydd yr ymholwr yn cael gwybod am yr oedi a'r rheswm;
  • Cymorth ac arweiniad i'w helpu i nodi eu gofynion;
  • Esboniad o'r gwahanol fathau o ddarpariaeth gofal plant sydd ar gael i alluogi rhyddid dewis ac i wneud penderfyniad gwybodus;
  • Gwybodaeth fanwl, gywir a chyfredol am bob darpariaeth gofal plant cofrestredig yn eu hardal a allai weddu i'w hanghenion unigol;
  • Gwybodaeth fanwl, gywir a chyfredol am ystod o wasanaethau a chyfleusterau eraill i deuluoedd yn Nhorfaen, gan gynnwys llinellau cymorth cenedlaethol a sefydliadau perthnasol;
  • Cymorth ac arweiniad pellach am faterion ehangach yn ymwneud â phlant;
  • Y cyfle i rannu sylwadau am y gwasanaeth maen nhw wedi'i dderbyn, i gynorthwyo gwelliannau.