
Cymorth Costau Byw
Cronfa Cymorth i Ofalwyr
Gall Gofalwyr di-dâl wneud cais am grantiau ar gyfer eitemau hanfodol. Dysgwch mwy am y Gronfa Cymorth i Ofalwyr De-ddwyrain Cymru yma, neu gallwch gysylltu â [email protected]
Talebau bwyd a Banciau bwyd
Gallwch gael talebau gan Gyngor ar Bopeth, Canolfan Byd Gwaith, meddygfeydd, ymwelwyr iechyd a gweithwyr cymdeithasol, a gallwch eu defnyddio yn eich banc bwyd lleol.
Cyngor ar Bopeth
I gael gwybodaeth am dalebau bwyd a banciau bwyd, ewch i www.citizensadvice.org.uk
Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi
Mae pawb angen help a chefnogaeth o bryd i’w gilydd. Gyda chostau byw yn cynyddu, mae llawer o bobl yng Nghymru angen yr help hwnnw nawr. Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i roi arian yn ôl ym mhocedi pobl. Mae cymorth ar gael i chi a allai eich helpu gyda rhywfaint o’ch costau byw https://www.llyw.cymru/ymgyrch-hawliwch-yr-hyn-syn-ddyledus-i-chi
Sut i ddod o hyd i Gronfeydd Ymddiriedolaeth Plant coll
Os ydych chi dros 18 oed ac yn edrych i gael gafael ar yr arian yn eich Cronfa Ymddiriedolaeth Plant (CTF), nid oes angen talu i'w olrhain os nad ydych chi'n gwybod y manylion. Defnyddiwch y teclyn am ddim yn y blog hwn i ddod o hyd i'ch CTF www.moneyhelper.org.uk/cy/blog/young-people/how-to-find-lost-child-trust-funds
Cymorth i aelwydydd sy’n wynebu argyfwng tanwydd
Mae Fuel Bank Foundation yn helpu aelwydydd sy’n wynebu argyfwng tanwydd a dyma’r unig elusen yn y DU sy’n canolbwyntio ar heriau pobl sy'n byw gydag argyfwng tanwydd. https/www.fuelbankfoundation.org/ https://www.fuelbankfoundation.org/
Cynghrair Gwirfoddol Torfaen
I gael gwybodaeth am fanciau bwyd lleol ewch i www.tvawales.org.uk
Prydau Ysgol am ddim
Os ydych yn derbyn budd-daliadau, efallai y bydd eich plentyn yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Dysgwch mwy am Brydau ysgol am ddim yma.
Y Bartneriaeth Gwydnwch Bwyd
Ei nod yw cynyddu maint y bwyd cynaliadwy yn y fwrdeistref a dod o hyd i atebion hirdymor i dlodi bwyd. Dysgwch mwy am y Rhaglen Gwydnwch Bwyd yma.
Tîm budd-daliadau Cyngor Torfaen
Cysylltwch â thîm budd-daliadau'r Cyngor ar [email protected] neu ffoniwch y Tîm Gofal Cwsmeriaid ar 01495 766430 neu 01495 766570.
Creu Cymunedau Cryf
I gael cyngor ar sut i atal caledi yn y dyfodol, ewch i wefan Creu Cymunedau Cryf.
Help for Households (gov.uk)
Mae Llywodraeth y DU wedi creu gwefan Help for Households sy'n rhoi cymorth a chyngor ariannol, ar gael i gyd yn yr un lle.