Rolling Hills

Ymyrraeth Gynnar - Gwybodaeth i Ddarparwyr

Fel darparwyr gofal plant yn Nhorfaen gwyddwn eich bod yn angerddol am ddarparu lle cefnogol a chynhwysol i'r holl blant rydych chi'n gofalu amdanynt bob dydd.

Yn y Blynyddoedd Cynnar rydym yn edrych ar y ffordd orau y gallwn gefnogi teuluoedd ag angen sy'n dod i'r amlwg, gyda’r adnoddau sydd ar gael. Ein nod yw cynnig dull integredig o wasanaethau Cymorth i Deuluoedd, gan ddefnyddio'r strwythurau a'r systemau presennol a ddarperir gan yr holl Wasanaethau Blynyddoedd Cynnar.

Gyda phwy i ni’n cysylltu i gael cymorth?

Os ydych chi'n credu bod gennych blentyn yn eich lleoliad sydd ag anghenion eraill sy'n dod i'r amlwg, mae'n bwysig siarad â rhieni a gofalwyr y plentyn yn gyntaf. Gweler y Llwybr Cyfathrebu i gael gwybod at bwy y dylech droi i ofyn am gefnogaeth.

Sefydlwyd panel Ymyrraeth Gynnar Torfaen i gynnig un pwynt mynediad. Ei nod yw ymyrryd yn gynnar a rhoi cymorth ychwanegol dan ein cynnig gwasanaethau cyffredinol i blant a theuluoedd agored i niwed a'r rheini sydd ag anghenion sy’n dod i’r amlwg. Bydd gweithwyr proffesiynol o’r gwahanol asiantaethau yno i'ch cefnogi chi, y teulu a'r plentyn ar eu taith.

Os ydych chi'n ansicr neu os oes angen cyngor pellach arnoch, cysylltwch â:

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen
Ffôn: 0800 0196330
E-bost: [email protected]

Cysylltiadau eraill i gael gwybodaeth

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol