Rolling Hills

Gwasanaeth Chwarae Torfaen

Mae Gwasanaeth Chwarae Torfaen yn cynnig cyfleoedd amrywiol i blant a phobl ifanc o bob oed a gallu drwy gyfrwng chwarae. Mae'r gwasanaeth yn cynnig cyfleoedd chwarae 7 diwrnod yr wythnos i ddiwallu anghenion cymunedau ledled Torfaen. Gyda dros 100 o wahanol brosiectau sy'n gysylltiedig â chwarae bob blwyddyn, mae ein gwaith yn cael ei reoli drwy Gynllun Gweithredu Digonolrwydd Chwarae'r cyngor sy'n bwydo'n ôl i Lywodraeth Cymru yn flynyddol.

Rydym yn dîm o 19 o weithwyr yn ystod y tymor, sy’n derbyn cefnogaeth gan weithwyr sesiynol a gwirfoddolwyr. Yn yr haf, mae'r tîm yn cynyddu i dros 400 o weithwyr a gwirfoddolwyr i'n galluogi i gynnig ystod eang o gyfleoedd chwarae yn ystod y gwyliau.

Ar hyn o bryd, mae pum thema gwaith yn cael eu darparu gan y Gwasanaeth Chwarae: -

Chwarae a Chynhwysiant

  • Cymorth Ychwanegol i Blant a Phobl Ifanc 5-11 oed sydd ag anableddau ac anghenion ymddygiadol
  • Cymorth Ychwanegol i Blant 12 – 17 oed ag anghenion cymhleth ac anableddau dwys
  • Cymorth wythnosol ac yn ystod y gwyliau i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal
  • Cymorth wythnosol ac yn ystod y gwyliau i ofalwyr ifanc
  • Sesiynau Chwarae a Seibiannau ar Benwythnosau ac yn ystod y Gwyliau
  • Clwb Chwarae a Chynhwysiant Wythnosol
  • Canolfan Asesu Chwarae
  • Llogi Ystafell Synhwyraidd (Yn dod cyn hir)

Chwarae yn y Gymuned

  • Sesiynau Chwarae Wythnosol i Deuluoedd
  • Clybiau Chwarae Cymunedol Wythnosol
  • Fforwm Misol - Dad a Fi
  • Clwb Pêl-droed a Hwyl (Tymhorol)
  • Clwb Lego
  • Sesiynau Chwarae Newydd
  • Clybiau Chwarae a Phontio
  • Digwyddiadau Cymunedol
  • Llwybrau Mwy Diogel i Chwarae – Sesiynau Sgwt-ffit a Beiciau
  • Llyfrgell Benthyca Teganau
  • Prosiectau Ymgynghori a Chyfranogi

Chwarae mewn Ysgolion

  • Sesiynau Chwarae a Lles
  • Cymorth Chwarae Cynhwysol mewn Ysgolion
  • Sesiynau Chwarae a Dihangfa
  • Sesiynau Chwarae a Gofal Cofleidiol
  • Chwarae ar yr iard
  • Sesiynau Chwarae Brecwast Cynnar
  • Clybiau ar ôl ysgol
  • LEGO – Build to Express
  • Disgos Rhyngweithiol

Darpariaethau Chwarae yn ystod y Gwyliau

  • Cynlluniau Chwarae Hanner Tymor a Gwyliau'r Haf 5- 11 oed
  • Gwersylloedd Bwyd a Hwyl 5- 11 oed
  • Gwersylloedd Chwarae a Gweithgareddau Hanner Tymor a Gwyliau'r Haf 8 – 11 oed
  • Gwersylloedd Chwarae a Lles Hanner Tymor a Gwyliau'r Haf 5- 11 oed
  • Chwarae a Seibiannau Hanner Tymor a Gwyliau’r Haf 5 – 17 oed
  • Sesiynau Chwarae yn y Parc (Tymhorol)
  • Gwersylloedd Chwarae a Phontio 8 – 13 oed

Gwirfoddoli a Hyfforddiant

  • Prosiect Gwirfoddoli –16+
  • Prosiect Cynorthwywyr Chwarae -14 - 15 oed (nifer cyfyngedig o leoedd)
  • Lleoliadau yn y gwaith drwy ITEC ac ACT
  • Profiad gwaith drwy ysgolion
  • Lleoliadau Coleg a Phrifysgol
  • Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Chwarae ar gyfer Ysgolion a Grwpiau Cymunedol

I gael mwy o wybodaeth am sesiynau a grwpiau, gweler tudalen y Gwasanaeth Chwarae ar wefan CBST

I gael mwy o wybodaeth am ddigwyddiadau a sesiynau, cadwch lygad ar dudalen cyfryngau cymdeithasol Chwarae Torfaen neu dudalen cyfryngau cymdeithasol Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen neu cysylltwch â:

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen
Ffôn: 0800 0196330
E-bost: [email protected]