Rolling Hills

Llyfrgelloedd Torfaen

Mae ymweld â llyfrgelloedd lleol yn agor cymaint o gyfleoedd i feithrin sgiliau eich plentyn, o sgiliau iaith, darllen a chyfathrebu, i sgiliau cymdeithasol a chreadigol.

Yn llyfrgelloedd Torfaen fe gewch amrywiaeth eang o lyfrau ar gyfer pob oedran, o fabanod i oedolion ifanc. Gall blant hefyd ddefnyddio cyfleusterau TGCh a chymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau arbennig. Mae pob un o’n llyfrgelloedd yn cynnig cymorth gyda gwaith cartref yn cynnwys y cyfle i argraffu am ddim o fewn rheswm.

Mae'n rhad ac am ddim i ymuno! Dewch â thystiolaeth o'ch enw a'ch cyfeiriad neu beth am Ymuno â’r Gwasanaeth Llyfrgell ar-lein.

Cymerwch ran!

Mae gan Lyfrgelloedd Torfaen gymaint o grwpiau a gweithgareddau difyr y gallwch gymryd rhan ynddynt.

I blant dan 5 oed mae:

Sesiynau amser rhigwm- Maen nhw'n hwyl, yn rhad ac am ddim ac yn cael eu cynnal yn ein holl lyfrgelloedd yn Nhorfaen. Gweler Dewis i gael mwy o wybodaeth am y sesiynau.

Sesiynau Stori a Chrefft i Blant Dan 5 – Difyr, am ddim ac maent yn cael eu cynnal yn Llyfrgell Cwmbrân. Gweler Dewis i gael mwy o wybodaeth am y sesiynau.

Beth sydd ar gyfer fy mhlentyn/mhlant hŷn?

Nod grwpiau darllen ar gyfer plant a phobl ifanc yw ysbrydoli pobl ifanc i ddarllen yn anturus, datblygu hyder i fynegi eu barn – a chael amser da yn darllen ac yn trafod llyfrau!

Clybiau ‘Clonclyfrau’ i blant 7- 11 oed a grwpiau darllen i bobl ifanc 11+ oed yn ein llyfrgelloedd. Gweler Dewis i gael mwy o wybodaeth am y sesiynau.

Clwb Lego yn Llyfrgell Cwmbrân- Clwb Lego am ddim i blant 5-11oed. Gweler Dewis i gael mwy o wybodaeth am y sesiynau.

Wrth gwrs, gallwch fynd i'ch llyfrgell leol am lawer o resymau eraill. Mae gan bob llyfrgell adran lachar a chroesawgar i blant. Mae llyfrau stori i bob oed a llyfrau gwybodaeth i roi help llaw gyda gwaith cartref ac er hamdden. Mae ceisiadau am eitemau i blant dan 16 oed yn rhad ac am ddim ac nid chodir tâl os byddwch chi’n anghofio dychwelyd eich llyfrau ar amser!

Amserau’r Sesiynau:

Llyfrgell Cwmbrân

  • Dydd Llun: 9:00am - 5:30pm
  • Dydd Mawrth: 9:00am - 5:30pm
  • Dydd Mercher: AR GAU
  • Dydd Iau: 8:45am - 7:00pm
  • Dydd Gwener: 8:45am - 6:00pm
  • Dydd Sadwrn: 8:45am - 1:00pm

Llyfrgell Pont-y-pŵl

  • Dydd Llun: AR GAU
  • Dydd Mawrth: 2:00pm - 7:00pm
  • Dydd Mercher: 9:00am - 5:00pm
  • Dydd Iau: 9:00am - 3:00pm
  • Dydd Gwener: 9:00am - 5:00pm
  • Dydd Sadwrn: 9:00am - 1:00pm

Llyfrgell Blaenafon

  • Dydd Llun: AR GAU
  • Dydd Mawrth: 10:00am - 5:00pm
  • Dydd Mercher: 10:00am - 5:00pm
  • Dydd Iau: 10:00am - 5:00pm
  • Dydd Gwener: 10:00am - 5:00pm
  • Dydd Sadwrn: 10:00am - 2:00pm

Mae pob Llyfrgell ar gau ar wyliau banc ac yn ystod wythnos y Nadolig/ Y Flwyddyn Newydd

Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen
Ffôn: 0800 0196330
E-bost: [email protected]