Rolling Hills

Cynnig Gofal Plant Cymru

Beth yw'r Cynnig Gofal Plant?

This content is hosted by a third party. By showing the external content you accept these terms and conditions.

O dan y Cynnig Gofal Plant i Gymru, gallech hawlio hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant bob wythnos, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Nod y cynllun gofal plant hwn a ariennir gan y llywodraeth yw lleihau beichiau costau gofal plant fel y gallwch wario'r arian rydych chi wedi'i gynilo ar y pethau sydd yn bwysig i'ch teulu.

Pwy all wneud cais am y Cynnig?

Gallwch wneud cais am y Cynnig:

  • Os ydych chi’n byw yng Nghymru;
  • Os yw eich plentyn yn 3 neu 4 oed
  • Os yw’r ddau riant /cyplau sy’n cyd-fyw mewn teulu dau riant, neu unig riant mewn teulu un rhiant, naill ai’n gweithio neu mewn addysg neu hyfforddiant
  • Os ydych yn bodloni un o’r diffiniadau a ganlyn sy’n disgrifio rhiant sy’n gweithio neu riant sydd mewn addysg neu hyfforddiant

Diffiniadau

Mae rhiant yn cynnwys gwarcheidwaid, llys-rieni, a phartneriaid sy’n cyd-fyw yng nghartref y plentyn – bydd angen i bob un ohonynt fodloni'r meini prawf cymhwysedd er mwyn i'r plentyn hwnnw fanteisio ar y Cynnig.

Gall rhiant sy'n gweithio fod yn rhiant sydd naill ai'n gyflogedig neu'n hunangyflogedig. Mae hyn yn cynnwys y rhai sydd ar Brentisiaethau, sydd â chontractau dim oriau a’r rheini sydd newydd ddod yn hunangyflogedig. Rhieni sy'n gyflogedig neu'n hunangyflogedig ond sydd ar absenoldeb statudol er enghraifft, cyfnod mamolaeth. Mae meini prawf isafswm enillion yn golygu bod yn rhaid iddynt ennill, ar gyfartaledd, yr hyn sy'n cyfateb i o leiaf 16 awr yr wythnos ar yr isafswm cyflog perthnasol sy'n berthnasol iddyn nhw. Ni chaiff y naill riant neu’r llall ennill mwy na £100,000 y flwyddyn.

Gall rhiant mewn addysg neu hyfforddiant fod yn rhiant sydd naill ai:

  • wedi cofrestru ar gwrs israddedig neu ôl-raddedig Addysg Uwch (AU) sy'n o leiaf 10 wythnos o hyd. Mae hyn yn cynnwys cyrsiau a ddarperir trwy ddysgu o bell. NEU,
  • wedi cofrestru ar gwrs sy'n o leiaf 10 wythnos o hyd ac sy'n cael ei gyflwyno mewn Sefydliad Addysg Bellach (AB). Mae hyn yn cynnwys cyrsiau a ddarperir drwy ddysgu o bell

Dylai rhiant mewn addysg a hyfforddiant, ddangos tystiolaeth eu bod wedi cofrestru’n ffurfiol ar gwrs AU neu AB perthnasol. Pan fydd rhiant wedi gwneud cais, a derbyn cynnig o le ar gwrs AU neu AB perthnasol, ond nid yw eto wedi gallu cofrestru, bydd angen iddo ddangos tystiolaeth o’r cynnig ffurfiol am le ar y cwrs. Byddai rhiant mewn addysg neu hyfforddiant sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd yn gallu manteisio ar y Cynnig o'r dyddiad y mae eu cwrs yn dechrau.

Yn y ddau achos dylai'r dystiolaeth hon nodi:

  • dyddiad dechrau'r cwrs; a
  • dyddiad gorffen y cwrs a/neu hyd y cwrs mewn wythnosau; a
  • enw'r sefydliad sy'n cyflwyno'r cwrs

Gall gofalwyr maeth, gofalwyr sy’n berthnasau a rhieni ar absenoldeb mabwysiadu, hefyd fod yn gymwys. Dilynwch y ddolen i gael gwybod: https://gov.wales/check-eligibility-childcare-offer

Eithriadau

Bydd teuluoedd yn y sefyllfaoedd canlynol yn dal i fod yn gymwys i fanteisio ar y Cynnig os yw:

  • Rhieni (neu'r rhiant mewn teulu rhiant sengl) i ffwrdd o'r gweithle dros dro, neu wedi atal eu hastudiaethau naill ai oherwydd salwch neu oherwydd absenoldeb rhiant. Mae hyn yn cynnwys cyfnod mamolaeth, absenoldeb Rhiant a Rennir a Chyflog Rhiant Statudol, ac absenoldeb mabwysiadu.
  • Mae un rhiant yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ac mae'r rhiant arall yn derbyn un o'r budd-daliadau canlynol:

Budd-dal Analluogrwydd;

Lwfans gofalwr;

Lwfans anabledd difrifol;

Budd-dal Analluogrwydd Hir Dymor;

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth;

Credydau Yswiriant Gwladol o ran analluogrwydd iweithio neu allu cyfyngedig i weithio; neu

Credyd Cynhwysol pan fydd asesiad wedi dod i'r casgliad bod gan yr unigolyn allu cyfyngedig i weithio.

Rhieni sydd newydd ddod yn hunangyflogedig

Cynhalwyr (gofalwyr) sy'n ffrindiau neu'n deulu ac sydd wedi cymryd cyfrifoldeb dros blentyn neu lysblentyn, sydd ddim yn fab/ferch iddyn nhw, am nad oes gan y plentyn rieni, neu am nad yw’r rheini yn gallu gofalu am y plentyn. Fel arall, mae'n debygol byddai'r plentyn yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol oherwydd pryderon mewn perthynas â lles y plentyn.

Gall aelwydydd â dau riant lle mae un rhiant yn gweithio neu mewn addysg neu hyfforddiant a'r llall wedi ymddeol am ei fod wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth, fod yn gymwys i dderbyn y Cynnig Gofal Plant os oedd y rhiant sydd bellach wedi ymddeol yn derbyn un neu fwy o'r budd- daliadau cymwys cyn cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth.

Ni fydd rhieni sengl a theuluoedd lle mae'r ddau riant yn derbyn y budd-daliadau uchod yn gallu derbyn y Cynnig.

Os yw rhieni wedi gwahanu

Os nad yw'r warchodaeth yn cael ei rhannu'n gyfartal:

  • Bydd y rhiant sydd â’r brif warchodaeth yn gymwys i dderbyn y Cynnig os bodlonir y meini prawf cymhwysedd

Os yw'r warchodaeth yn cael ei rannu'n gyfartal:

  • Bydd angen i un rhiant gael ei enwebu fel y rhiant pennaf i dderbyn y Cynnig
  • Dim ond un rhiant fydd yn cael gwneud cais am y plentyn hwnnw.

A fydd yn rhaid i mi dalu am unrhyw beth?

Mae'r Cynnig yn ariannu uchafswm o 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yng Nghymru yr wythnos, a hynny am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Mae'r cyllid gan y llywodraeth yn cynnwys yr addysg a'r gofal y mae'r gweithwyr proffesiynol yn y lleoliad yn eu darparu. Nid yw'n cynnwys bwyd, trafnidiaeth neu weithgareddau oddi ar y safle sy’n costio mwy a gall y darparwyr godi tâl arnoch am y rhain.

Bydd cost trafnidiaeth yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw a pha mor bell y mae'n rhaid iddynt deithio. Ni ddylai darparwyr godi mwy na £9 y dydd am fwyd neu £5.75 am hanner diwrnod (gan gynnwys cinio). Bydd rhaid i chi dalu am unrhyw oriau y tu allan i’r cyllid hwn.

A fydd yn effeithio ar fy mudd-daliadau?

Gallai unrhyw gyllid o'r Cynnig tuag at eich costau gofal plant effeithio ar fudd-daliadau eraill yr ydych yn eu derbyn.

Credyd Cynhwysol

Ni allwch ddefnyddio'r costau gofal plant sy'n rhan o'r Credyd Cynhwysol ar gyfer oriau gofal plant a ariennir gan y Cynnig. Gallwch, fodd bynnag hawlio costau gofal plant Credyd Cynhwysol am unrhyw ofal plant ychwanegol y mae angen i chi dalu amdano. Gall hyn fod naill ai ar gyfer eich plentyn 3 neu 4 oed neu unrhyw blentyn arall yn eich cartref.

Os ydych chi'n cael yr elfen gofal plant o’r Credyd Cynhwysol mae angen i chi roi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau am unrhyw newidiadau yn eich bywyd teuluol neu fywyd gwaith, a hynny ar gov.uk.

Credydau Treth

Gallwch barhau i dderbyn Credydau Treth ar yr un pryd ag yr ydych yn derbyn y Cynnig.

Cyfrifir Credydau Treth yn seiliedig ar y swm yr ydych chi'n ei ennill ac amcangyfrif o'ch costau gofal plant. Wrth dderbyn y Cynnig, gallai arwain at gynnydd yn eich incwm. Er enghraifft, os gallwch weithio mwy o oriau, neu gael gostyngiad yn eich costau gofal plant. Mae hyn yn golygu y gallech dderbyn llai o gredydau treth.

Os ydych chi'n cael Credydau Treth, mae angen i chi roi gwybod i CThEF am unrhyw newidiadau yn eich bywyd teuluol neu eich bywyd gwaith, ar gov.uk. Mae hyn yn cynnwys cyllid o'r Cynnig i helpu i dalu am gostau gofal plant.

Gofal Plant Di-dreth

Gallwch ddefnyddio Gofal Plant Di-dreth a dal i dderbyn y Cynnig am unrhyw oriau ychwanegol o ofal plant sydd eu hangen arnoch.

Os ydych chi'n cael Gofal Plant Di-dreth, mae angen i chi ail gadarnhau eich manylion bob 3 mis.

Efallai y byddwch yn gallu defnyddio Gofal Plant Di-dreth i dalu am gostau ychwanegol fel bwyd, cludiant a ffioedd cadw.

Ni allwch ddefnyddio Gofal Plant Di-dreth os ydych chi'n derbyn Credyd Treth Gwaith neu Gredyd Cynhwysol.

A ydw i’n cael defnyddio mwy nag un darparwr gofal plant?

Ydych, gallwch ddefnyddio hyd at DDAU leoliad gofal plant cofrestredig y dydd yn ogystal â'u lleoliad addysg gynnar mewn unrhyw ddiwrnod penodol yn ystod y tymor. Dim ond dau leoliad gofal plant cofrestredig y gallwch ei ddefnyddio yn ystod gwyliau'r ysgol.

Sut bydd y cynnig yn gweithio y tu allan i’r tymor?

Bydd y Cynnig yn cynnwys hyd at 48 wythnos y flwyddyn, mae hyn yn cynnwys 9 wythnos o wyliau ysgol. Am 9 wythnos o'r gwyliau ysgol hyn, gall rhieni wneud cais am hyd at 30 awr o ofal plant a ariennir.

Yn ystod blwyddyn ysgol academaidd, gall rhieni fod â hawl i 39 wythnos o addysg gynnar a gofal plant a ariennir. Fodd bynnag, dim ond am 9 allan o'r 13 wythnos o wyliau ysgol y gall rhieni gael gofal plant a ariennir. Felly, gallai rhieni fod yn gyfrifol am ffioedd sy'n weddill yn ystod y tymor a gwyliau ysgol.

Gall rhieni ddewis pa gyfnodau gwyliau yr hoffent eu defnyddio, fodd bynnag, mae wythnosau gwyliau wedi'u cyfyngu i 3 wythnos y tymor. Cynghorir rhieni i siarad â'u darparwr gofal plant i sicrhau eu bod yn gwybod faint o oriau maen nhw'n eu hawlio yn ystod rhai cyfnodau gwyliau.

Pryd alla i wneud cais?

Mae ymgeiswyr bellach yn gallu gwneud cais hyd at 75 diwrnod o ddyddiad dechrau’r tymor y maen nhw’n gymwys. Mae tymor yr hydref yn dechrau 1 Medi 2025. Mae hyn yn golygu y bydd ceisiadau am ofal plant a ariennir gan Gynnig Gofal Plant ar gyfer tymor yr hydref 2025 yn agor ar 18 Mehefin 2025.

Yn ystod y naw wythnos o hawl gwyliau, mae'r 30 awr ar gael yn llawn o dan y cynnig gofal plant yn unig.

Bydd plant sy'n troi'n 3 oed rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth yn gymwys i ddechrau'r Cynnig Gofal Plant o dymor yr haf.

Bydd plant sy'n troi'n 3 oed rhwng 1 Ebrill a 31 Awst yn gymwys i ddechrau'r Cynnig Gofal Plant o dymor yr Hydref.

Bydd plant sy'n troi'n 3 oed rhwng 1 Medi a 31 Rhagfyr yn gymwys i ddechrau'r Cynnig Gofal Plant o dymor y Gwanwyn.

Sut ydw i'n gwneud cais?

Galwch wneud ceisiadau drwy'r system ddigidol genedlaethol ar https://gov.wales . Mae hwn yn wasanaeth dwyieithog, ar-lein y gallwch ei ddefnyddio drwy liniadur, ffôn symudol neu lechen. Bydd angen i chi greu cyfrif ar Borth y Llywodraeth i ddechrau eich cais.

I'ch helpu i baratoi ar gyfer eich cais, bydd angen:

  • Tystysgrif geni eich plentyn
  • Tystiolaeth o gyfeiriad
  • Tystiolaeth o incwm y cartref neu dystiolaeth eich bod wedi cofrestru ar gwrs addysg uwch neu addysg bellach
  • Eich rhif Yswiriant Gwladol
  • Eich cyfeiriad cyflogaeth gyda chod post
  • Cyfeiriad gwaith partner y cartref gyda chod post
  • Cyflog wythnosol y cartref ar gyfartaledd i chi a’ch partner
  • Cyflog blynyddol gros y cartref i chi a’ch partner

Dylai rieni cymwys sy’n dewis meithrinfa mewn ysgol, fod wedi llenwi ffurflen dderbyn a’i dychwelyd i’r ysgol o’u dewis (y dyddiad cau oedd15 Gorffennaf 2024). Yna, gall rhieni cymwys wneud cais ar-lein am y Cynnig gan ddefnyddio’r system ddigidol genedlaethol yn seiliedig ar pryd y mae eich plentyn yn troi’n 3 oed.

Bydd angen i rieni cymwys sy’n dewis lleoliad gofal plant preifat sydd wedi’i gymeradwyo i dderbyn cyllid addysg cynnar gwblhau Ffurflen Blynyddoedd Cynnar 1 (cysylltwch â’r lleoliad yn uniongyrchol) a gwneud cais am y Cynnig ar-lein gan ddefnyddio’r gwasanaeth ddigidol genedlaethol yn seiliedig ar pan fydd eich plentyn yn troi’n 3 oed. Anfonwch e-bost i [email protected] os hoffech dderbyn restr o’r holl leoliadau gofal plant sydd wedi eu cymeradwyo.

Faint o oriau o ofal plant alla i wneud cais amdanynt?

Mae'r cynnig yn uchafswm o 30 awr o addysg a gofal plant cyfunol. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen eisoes yn cynnig 12.5 awr o Addysg Gynnar i bob plentyn mewn lleoliad a gynhelir (meithrin ynghlwm wrth ysgol) neu 10 awr mewn lleoliad nad yw'n cael ei gynnal (y darparwyr Addysg hynny sydd wedi cofrestru i gynnig Addysg Gynnar mewn meithrinfa ddydd neu grŵp chwarae) sy'n golygu, yn ystod y tymor, gall rhieni cymwys gael 17.5 awr ychwanegol o ofal plant neu 20 awr, yn ystod y tymor, yn dibynnu ar y math o addysg gynnar y maen nhw’n ei derbyn.

Nid yw'n ofynnol i rieni ddefnyddio’u hawl addysg gynnar cyn cael mynediad at elfen gofal plant y cynnig, fodd bynnag, bydd eu hawl yn cynnwys yr oriau hyn p'un a ydynt yn eu defnyddio neu beidio.

Os cynigir / derbynnir oriau Meithrin Cyfnod Sylfaen ychwanegol, bydd nifer yr oriau gofal plant yn gostwng yn unol â hynny.

Pwysig

Sylwch fod y cais yn broses dau gam. Os yw eich cais yn cael ei gymeradwyo, bydd angen i chi greu cytundeb ar-lein gyda'ch lleoliad. Bydd angen i chi drafod y trefniadau gyda nhw cyn trefnu cytundeb ffurfiol. Ar ôl i'r ddwy ran o'r cais gael eu cymeradwyo, bydd y cyllid yn dechrau o'r dyddiad a nodir yn y ddogfen y byddwch yn ei derbyn gan y system ddigidol newydd - ni ellir ôl-ddyddio taliadau.