Rolling Hills

Dechrau’n Deg

Beth yw Dechrau'n Deg?

Mae cael plentyn yn brofiad gwych, ond gall hefyd deimlo'n llethol. Os ydych chi'n byw mewn ardal Dechrau'n Deg ac os oes gennych blentyn 0-4 oed, gallwch gael ystod o wasanaethau sydd wedi'u cynllunio i'ch cefnogi chi a'ch teulu. Ein nod yw helpu i roi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i'ch plentyn

Wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae Dechrau’n Deg yn darparu pedwar prif faes:

Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd a Bydwreigiaeth Estynedig

Bydd Tîm Iechyd Dechrau’n Deg yn cynnig cefnogaeth a chyngor ychwanegol trwy gydol beichiogrwydd a blynyddoedd cyntaf bywyd eich plentyn.

Bydd ein Tîm Iechyd yn gallu cynnig cymorth a chefnogaeth mewn ystod o feysydd fel:

  • Cefnogaeth drwy gydol y cyfnod beichiogrwydd a gofalu am eich babi newydd
  • Cyngor a chefnogaeth bwydo ar y fron
  • Cyngor ar ddiddyfnu
  • Gwiriadau diogelwch yn y cartref a chyngor i sicrhau bod eich cartref yn ddiogel i fabanod

Mae gennym hefyd, dîm o:

  • Fydwragedd
  • Nyrsys Iechyd Meddwl
  • Seicolegwyr Clinigol
  • Nyrsys Meithrin Iechyd Cymunedol

A phawb yno i gynnig cymorth a chyngor os ydych eu hangen.

Gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd drwy eu llinell ffôn ganolog newydd 01633 431 685 i gysylltu â'u timau ledled Gwent.

Cefnogaeth gyda sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu eich plentyn

Mae cefnogi datblygiad iaith a chyfathrebu plant yn un o nodau craidd Dechrau'n Deg.

Mae datblygu sgiliau lleferydd ac iaith yn allweddol wrth gefnogi plentyn i gyrraedd ei lawn botensial. Mae adnabod unrhyw anawsterau yn gynnar yn hanfodol am fod ymchwil i ddatblygiad yr ymennydd wedi dangos pa mod hanfodol yw tair blynedd gyntaf bywyd plentyn, i ddatblygu sgiliau iaith a chyfathrebu da.

Mae tîm Datblygu Iaith Gynnar Dechrau'n Deg, sy'n cael eu cefnogi gan Therapyddion Iaith a Lleferydd, yn cynnal amrywiaeth o grwpiau i helpu rhieni i ddatblygu sgiliau cyfathrebu eu plentyn. Mae'r rhan fwyaf o'r sesiynau hyn yn cael eu cynnal cyn y bydd eich plentyn yn dechrau gofal plant

Mynediad at Grwpiau Magu Plant

Gall bod yn rhiant ddod â llawenydd a hapusrwydd yn ogystal â heriau, ar adegau. Mae Tîm Cymorth Teuluol Dechrau’n Deg yn gweithio ochr yn ochr â theuluoedd i gael y canlyniadau gorau i’w babanod a’u plant. Rydym yn cynnig amrywiaeth o grwpiau rhianta a chyrsiau i’r oedran 0-7 i:

  • Wella hyder a sgiliau magu plant
  • Meithrin lles a gwytnwch
  • Cryfhau perthnasoedd

Gofal Plant

Yn ystod y tymor ar ôl eu hail ben-blwydd mae gan blant mewn ardaloedd Dechrau’n Deg yn Nhorfaen hawl i dderbyn lle gofal plant wedi ei ariannu hyd at ddiwedd y tymor y byddant yn troi’n dair oed ac maent yn gymwys i dderbyn lle Addysg Blynyddoedd Cynnar.

Dyddiadau mynediad ar gyfer gofal plant Dechrau'n Deg
Dyddiad geni'r plentyn  Pryd gall eich plentyn ddechrau gofal plant Dechrau'n Deg 

01/04/2023 to 31/08/2023

01/09/2025

01/09/2023 to 31/12/2023

05/01/2026

01/01/2024 to 31/03/2024

13/04/2026

am manteisio ar Ddechrau'n Deg?

This content is hosted by a third party. By showing the external content you accept these terms and conditions.

Dyddiadau cau ar gyfer Ceisiadau Dechrau'n Deg 2026

Os ydych wedi derbyn cais ar-lein am leoliad Dechrau'n Deg, nodwch y dyddiadau cau isod.

Tymor Ebrill 2026 - 6 Chwefror 2026

Tymor Medi 2026 - 8 Mai 2026

Tymor Ionawr 2027 - 9 Hydref 2026

Gall mynychu lleoliad Dechrau’n Deg ychwanegu at yr hyn y byddwch yn gwneud yn y cartref i helpu’ch plentyn i ddysgu a datblygu ei botensial llawn. Mae dysgu’n gynnar yn gwneud gwahaniaeth MAWR i’r ffordd mae plant yn datblygu ac yn mynd ymlaen i ddysgu trwy gydol eu bywydau.

Beth fydd fy mhlentyn yn ei ddysgu mewn gofal plant gyda Dechrau’n Deg?

  • Chwarae/cymdeithasu gyda phlant o’r un oedran
  • Rhoi cynnig ar bethau newydd
  • Ymarfer sgiliau newydd
  • Mwynhau amrywiaeth o weithgareddau chwarae
  • Cymryd tro a rhannu
  • Bod mewn awyrgylch sy’n gyfoethog o ran iaith

Cynigir gofal plant Dechrau’n Deg ar sawl ffurf – cylchoedd chwarae, meithrinfeydd dydd, gwarchodwyr plant ac yn Gymraeg a Saesneg.

Cliciwch yma i weld rhestr o Leoliadau Dechrau’n Deg yn Nhorfaen

Wrth wneud cais am ofal plant a ariennir gan Ddechrau'n Deg trwy god QR, cofiwch efallai na fydd rhai lleoliadau ar gael eto i'w dewis. Os na allwch weld y lleoliad o’ch dewis, ffoniwch 01495 742 943 i gadarnhau eich dewis.

Gofal Plant Cyfrwng Cymraeg

This content is hosted by a third party. By showing the external content you accept these terms and conditions.

I fod yn gymwys rhaid bod eich plentyn fod yn byw mewn ardal cod post Dechrau'n Deg.

Rhaid mai hwn yw:

  • prif gyfeiriad cartref y plentyn,
  • y cyfeiriad y telir y Budd-dal Plant iddo, a
  • cyfeiriad a gofrestrwyd gydag ymwelydd iechyd y plentyn.

Ni all y cyfeiriad a ddefnyddir fod:

  • yn gyfeiriad perthynas arall, fel mam-gu a thad-cu
  • gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal arall.

Dewch o hyd i ni ar Facebook: @Torfaen Flying Start

Mae Dechrau'n Deg Torfaen wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Mae Hysbysiad Preifatrwydd y Blynyddoedd Cynnar sy’n datgan sut yr ydym yn defnyddio gwybodaeth amdanoch, a sut yr ydym yn diogelu’ch preifatrwydd, ar gael yma.