Rolling Hills

Dod yn Ddarparwr Dechrau'n Deg

Ydych chi wedi ystyried cynnig Gofal Plant Dechrau'n Deg?

Oeddech chi'n gwybod bod ein proses ymgeisio ar agor drwy'r amser. Rydym yn awyddus iawn i gael mwy o leoliadau gofal plant sy'n cynnig Dechrau'n Deg. Os hoffech wybod mwy, cysylltwch â'r Swyddogion Datblygu Gofal Plant ar [email protected]

Os oes gennych ddiddordeb i ddod yn ddarparwr Dechrau'n Deg, bydd angen i chi ddilyn y canllaw cam wrth gam isod ar sut i gofrestru gyda Proactis. Yna, bydd rhaid gwneud cais i ddod yn ddarparwr Dechrau'n Deg yn Nhorfaen. Mae pob cais drwy dendr yn cael ei hysbysebu ar GwerthwchiGymru, lle byddwch yn dod o hyd i'r manylion am Proactis i wneud cais. Neu, fel arall, gallwch fynd yn syth i Proactis fel y nodir isod.

Dim ond trwy'r porth yn unig y derbynnir ceisiadau drwy dendr. Ni dderbynnir unrhyw geisiadau mewn unrhyw ffordd arall oni bai bod y Cyngor wedi cytuno fel arall yn ysgrifenedig.

  • Ewch i https://supplierlive.proactisp2p.com
  • Os nad ydych wedi cofrestru, cliciwch "Cofrestru," llenwi’r manylion, a chlicio "Cofrestru" (unwaith yn unig fel sefydliad)
  • Os nad ydych yn siŵr a yw eich sefydliad wedi'i gofrestru, cysylltwch â'ch Prif Gyswllt yn hytrach na chofrestru eto
  • Bydd y Prif Gyswllt yn cael e-bost actifadu; cliciwch ar y ddolen i actifadu'r cyfrif
  • Mewngofnodwch gyda'ch Enw Mewngofnodi a’ch cyfrinair dros dro sydd yn yr e-bost actifadu
  • Llenwch y manylion ‘hunan gofrestru’ a 'Manylion y Sefydliad’; yna ewch ati i greu cyfrinair newydd ar dudalen 8
  • Cliciwch "Cwblhau’r Cofrestru"
  • Cliciwch y blwch coch "Cyfleoedd", chwiliwch am "Torfaen"
  • Dewch o hyd i'r cyfle o'r enw "T.4602- System Brynu Ddeinamig (DPS) ar gyfer lleoliadau Dechrau’n Deg “ a chlicio’r arwydd gwyn yn y cylch glas
  • Cliciwch "Cofrestru Diddordeb
  • Defnyddiwch yr eicon telesgop i chwilio "Torfaen" eto a dod o hyd i'r cyfle sydd bellach wedi'i farcio gyda’r gair Preifat
  • · Cliciwch y saeth wen yn y cylch glas i'w agor
  • Darllenwch y dogfennau o dan "Gofyn am Ddogfennau" cyn ateb unrhyw gwestiynau

Ar ôl i'r cais gael ei dderbyn a'i brosesu, gofynnwn i'n tîm ymgynghori gynnal arsylwad dirybudd i ganfod graddi amgylchedd i gefnogi'r dystiolaeth a gyflwynwyd.