
Hawl i Addysg y Blynyddoedd Cynnar i Blant 3 a 4 oed
Beth yw'r Hawl i Addysg y Blynyddoedd Cynnar i Blant 3 a 4 oed?
Mae gan bob plentyn 3 a 4 oed hawl i o leiaf 10 awr o addysg feithrin Cyfnod Sylfaen (Hawl i Addysg y Blynyddoedd Cynnar) bob wythnos, o'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed. Mae hyn ar gael i bob un sy’n rhiant ac yn ofalwr i blant 3 a 4 oed yng Nghymru.
Faint o oriau o Hawl i Addysg y Blynyddoedd Cynnar sydd yna bob Wythnos/Blwyddyn?
Mae Meithrinfeydd mewn Ysgolion (a gynhelir) yn cynnig rhwng 10 awr a 12.5 awr o Addysg y Blynyddoedd Cynnar bob wythnos yn ystod y tymor ysgol yn unig.
Mae Darparwyr Nas Cynhelir (Darparwyr Preifat) yn cynnig 10 awr o Addysg y Blynyddoedd Cynnar bob wythnos yn ystod y tymor ysgol yn unig.
Pwy sy'n darparu’r Hawl i Addysg y Blynyddoedd Cynnar?
- Ysgol leol (a gynhelir)
- Cylch Chwarae (nas cynhelir)
- Meithrinfa Ddydd (nas cynhelir)
- Cylch Meithrin (nas cynhelir)
Rhieni sy’n dewis ble yr ydych am anfon eich plentyn/plant ar gyfer eu Hawl i Addysg y Blynyddoedd Cynnar.
I fynd at restr o Feithrinfeydd mewn Ysgolion Cliciwch yma
I fynd at restr o Feithrinfeydd Nas Cynhelir Cliciwch yma
Sylwer: mae'r broses ymgeisio yn wahanol ar gyfer darparwyr a Gynhelir a darparwyr Nas Cynhelir.
I wneud cais ar gyfer Darparwr a Gynhelir rhaid i chi wneud cais trwy Derbyn i Ysgolion.
I wneud cais ar gyfer Darparwr Nas Cynhelir, rhaid i chi siarad yn uniongyrchol â'r Darparwr a llenwi ffurflenni’r Darparwr.
Beth yw Codi’n 3?
Plant sy’n Codi’n 3 yw’r plant sy'n cael eu pen-blwydd yn 3 oed rhwng 1 Medi a 31 Mawrth.
Mae plant sy'n troi'n 3 oed rhwng 1 Medi a 31 Rhagfyr yn gymwys ar gyfer yr Hawl i Addysg y Blynyddoedd Cynnar, a ddarperir gan Feithrinfeydd mewn Ysgolion a Darparwyr Nas Cynhelir (sy'n darparu Addysg y Blynyddoedd Cynnar), ym mis Ionawr.
Mae plant sy'n troi'n 3 oed rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth yn gymwys ar gyfer yr Hawl i Addysg y Blynyddoedd Cynnar, a ddarperir gan Feithrinfeydd mewn Ysgolion a Darparwyr Nas Cynhelir (sy'n darparu Addysg y Blynyddoedd Cynnar), ym mis Ebrill.
Mynediad i'r Meithrin
Mae plant sy'n 3 oed rhwng 1 Ebrill a 31 Awst yn gymwys i gael yr Hawl i Addysg y Blynyddoedd Cynnar, a ddarperir gan Feithrinfeydd mewn Ysgolion a Darparwyr Nas Cynhelir (sy'n darparu Addysg y Blynyddoedd Cynnar), ym mis Medi.
Gall y rheiny nad ydynt wedi gwneud cais am le Codi’n 3, wneud cais i ddechrau ar yr Hawl i Addysg y Blynyddoedd Cynnar, a ddarperir gan Feithrinfeydd mewn Ysgolion a Darparwyr Nas Cynhelir (sy'n darparu Addysg y Blynyddoedd Cynnar), ym mis Medi.
Ymgeisio
Mae yna un ffenestr ymgeisio yn unig ar gyfer lleoedd meithrin a Chodi’n 3.
Mae’r dyddiad cau ar gyfer lleoedd ym mis Ionawr 2025, Ebrill 2025 a Medi 2025 bellach wedi mynd heibio, ond gallwch gyflwyno cais hwyr o hyd.
Dyddiad penderfynu ar geisiadau ar amser - Dydd Llun 16 Medi 2024 (Medi 2025 a Ionawr 2025 Codi'n 3)
Dyddiad penderfynu ar geisiadau ar amser - Dydd Gwener 24 Ionawr 2025 (Ebrill 2025 Codi’n 3)
Sylwer: ni dderbynnir cais am le yn y meithrin heb brawf o'r dyddiad geni.
Sylwer: Anfonir llythyron at rieni a gofalwyr plant pan fyddant yn gymwys i wneud cais. Os ydych wedi newid eich cyfeiriad ers genedigaeth eich plentyn, eich cyfrifoldeb chi yw dweud wrth Derbyn i Ysgolion am hyn. Cysylltwch â [email protected] neu ffoniwch 01495 766915.
Gwneud cais
Dyddiadau Derbyn 2026
Mae'r dyddiad cau ar gyfer lleoliadau ym mis Ionawr 2026, Ebrill 2026 a Medi 2026 bellach wedi mynd heibio, ond mae dal cyfle i chi gyflwyno cais hwyr.
- Dyddiad penderfyniad ar gyfer ceisiadau ar amser - Dydd Llun 15 Medi 2025 (Medi 2026 plant 4-blwydd-oed a Ionawr 2026 plant sy’n codi’n 3)
- Dyddiad penderfyniad ar gyfer ceisiadau ar amser – Dydd Gwener 30 Ionawr 2026 (Ebrill i blant sy’n Codi’n 3)
I wneud cais hwyr am le meithrin ar gyfer lleoliadau yn 2026, lawr lwythwch a llenwch Ffurflen Derbyn i Ysgol Feithrin 2026 a’i dychwelyd i [email protected]
Ceisiadau Hwyr 2025
I wneud cais hwyr am le meithrin ar gyfer lleoliadau yn 2025, lawr lwythwch a llenwch Ysgol Feithrin – Ffurflen Dderbyn 2025 a’i dychwelyd i [email protected]
Noder: Ni fyddwn yn derbyn cais am le mewn meithrinfa heb dystiolaeth o ddyddiad geni.
Cysylltu
I gael gwybodaeth am feithrinfeydd a gynhelir (meithrinfeydd mewn ysgolion) cysylltwch â [email protected] neu ffoniwch 01495 766915.
I gael gwybodaeth am feithrinfeydd nas cynhelir (darparwyr preifat) cysylltwch â Gwasanaeth