Rolling Hills

Cynllun Cyn Ysgol Iach a Chynaliadwy Torfaen

Mae’r Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy yn estyniad o Gynllun Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru. Ar hyn o bryd, mae 36 o leoliadau cyn-ysgol yn Nhorfaen wedi cofrestru i fod yn rhan o’r cynllun. Maent yn cynnwys meithrinfeydd dydd, Dechrau'n Deg, cylchoedd chwarae a gwarchodwyr plant.

Mae'r cynllun yn hyrwyddo ymddygiadau iechyd cadarnhaol o oedran cynnar, yn cynnwys iechyd y geg a phwysigrwydd bwyta’n iach a gweithgarwch corfforol i gefnogi’r gwaith o leihau gordewdra yn y Blynyddoedd Cynnar.

Mae'r cynllun wedi'i achredu, ac felly, mae pob lleoliad yn casglu tystiolaeth i gefnogi pob un o'r meysydd gweithredu canlynol:

  • Maeth ac Iechyd y Geg
  • Gweithgarwch Corfforol / Chwarae Egnïol
  • Llesiant Emosiynol a Meddyliol gan gynnwys Perthnasoedd
  • Yr Amgylchedd
  • Hylendid
  • Diogelwch
  • Iechyd a Llesiant yn y Gweithle

I gael mwy o wybodaeth am y Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy, cysylltwch â:

Ruth Harris - Ffôn: 01495 742056 neu e-bost: [email protected]

Dolenni Defnyddiol ar gyfer Atal Heintiau a Salwch

Dolenni Defnyddiol ar gyfer Bwyta'n Iach

Dolenni Defnyddiol ar gyfer Ffyrdd iach o fyw