
Dewis Gyrfa yn y maes Gofal Plant
Ydych chi'n angerddol am lunio bywydau plant a chael effaith gadarnhaol arnyn nhw a'u teuluoedd?
Beth am gymryd y camau cyntaf ar daith i yrfa werth chweil gyda chyfleoedd diddiwedd i dyfu a datblygu.
Dod yn Warchodwr Plant Cofrestredig
A fyddech chi’n hoffi gyrfa sy’n eich galluogi i weithio gyda phlant, ac sy’n hyblyg?
Byddech? Efallai mai dod yn warchodwr plant cofrestredig yw’r dewis cywir i chi.
Gall gwarchod plant fod yn yrfa gwerth chweil sy’n gweddu i lawer o wahanol ffyrdd o fyw. Fel gwarchodwr plant, mi fyddwch yn fos arnoch chi’ch hun, yn gweithio o’ch cartref eich hun a gallwch drefnu’ch gwaith mewn ffordd sy’n addas i chi a’r teuluoedd yr ydych yn gweithio gyda nhw.
Beth all Tîm Gofal Plant Torfaen ei gynnig i chi, i gefnogi eich taith i yrfa werth chweil gyda chyfleoedd diddiwedd ar gyfer twf a datblygiad.
Gallwn eich cefnogi gyda:
- Cyfleoedd wedi'u hariannu'n llawn i gwblhau cwrs gwarchod plant cyn-gofrestru
- Cefnogaeth i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
- Cefnogaeth a chyngor parhaus
- Aelodaeth am ddim ac yswiriant atebolrwydd cyhoeddus am flwyddyn i'r Gymdeithas Broffesiynol Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar (PACEY)
- Mynediad i hyfforddiant a ariennir, fel Diogelu, Cymorth Cyntaf Pediatrig a Diogelwch Bwyd
- Pecyn cychwyn gan gynnwys offer pwrpasol (PACEY)
- Camau i ddod yn warchodwr plant cofrestredig
- Holiadur Gwarchod Plant
Gallwch hefyd ymweld â thudalen cofrestru Ymlaen Llaw Coram PACEY.
Os ydych chi’n meddwl am fod yn Gynorthwyydd Gwarchodwr Plant, mae cyngor ar gael ar dudalen Camau tuag at Fod yn Gynorthwyydd Gwarchodwyr Plant gyda Coram PACEY.
Cynllun Cymeradwyaeth Darparwyr Gofal Plant yn y Cartref
Does dim rhaid i warchodwyr plant sy’n gweithio yng nghartref y plentyn ei hun – neu nanis – gofrestru gydag Arolygaeth Gofal Cymru (AGC) ond gallan nhw gofrestru’n wirfoddol o dan y cynllun Cymeradwyaeth Darparwyr Gofal Plant yn y Cartref.
Mae’r cynllun Cymeradwyaeth Darparwyr Gofal Plant yn y Cartref yn achredu nanis/gofalwyr plant yn y cartref i weithio gyda phlant, gan gynnig mwy o hyder i rieni wrth iddyn nhw gyflogi nani, a hefyd y cyfle i hawlio yn ôl rhai costau gofal plant (os ydyn nhw’n gymwys) trwy Gredydau Treth. Gall nanis wedi eu cymeradwyo hefyd gefnogi rhieni trwy Ofal Plant Rhydd o Dreth.
Beth sydd rhaid ei wneud i gael cymeradwyaeth?
Mae’r cynllun yn gwirio eich bod yn 18 oed, bod gennych dystysgrif cymorth cyntaf pediatrig gyfredol, eich bod wedi mynd trwy wiriad uwch y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a bod gennych gymhwyster ar Restr Cymwysterau Gofynnol Gofal Cymdeithasol Cymru.
Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys cwestiynau cyffredin am y cynllun, ewch i wefan Arolygiaeth Gofal Cymru neu Bod yn Nani – Coram PACEY.
Swyddi gwag yn y maes Gofal Plant
Mae swyddi gwag yn cael eu hysbysebu gan leoliadau gofal plant. Edrychwch ar borth swyddi Gofalwn Cymru neu rhowch alwad i ni ar 0800 0196330 neu e-bostiwch [email protected] i gael mwy o wybodaeth.