Rolling Hills

Meithrinfeydd Dydd yn Nhorfaen

I gael gwybodaeth am Feithrinfeydd Dydd yn Nhorfaen, gweler y cerdyn cymorth isod ar gyfer gwefan Dewis Cymru i gael gwybodaeth amdanyn nhw a'u gwasanaeth.

Datblygwyd Dewis Cymru i helpu pobl i ddod o hyd i wybodaeth am sefydliadau a gwasanaethau. Mae'n lle i unrhyw sefydliadau neu wasanaethau lleol rannu gwybodaeth am yr hyn y mae eu gwasanaeth yn ei gynnig. Mae darparwyr gofal plant lleol, fel Gwarchodwyr Plant, Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Chwarae, Cylchoedd Meithrin a Meithrinfeydd mewn Ysgolion, wedi cofrestru gyda Dewis Cymru ac maen nhw’n cynnal y wybodaeth am eu gwasanaeth.

Unwaith fyddwch chi wedi dod o hyd i ddarparwr yr hoffech ei holi, bydd gofyn i chi gysylltu â nhw'n uniongyrchol, i weld a oes lle ar gael ganddynt ac i gael gwybodaeth fanylach amdanyn nhw a'r hyn maen nhw'n ei gynnig.