Rolling Hills

Paratoi ar gyfer bywyd ar ôl ysgol

Mae gadael yr ysgol yn gam pwysig, ac wrth roi ambell i beth yn ei le yn gynnar gall eich helpu i deimlo'n hyderus ac yn barod am yr hyn sy’n dod nesaf, boed hynny'n goleg, hyfforddiant, neu gyflogaeth.

Isod mae rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu i baratoi am yr amser y byddwch chi'n gadael yr ysgol.

Pethau y mae angen i chi gael yn eu lle.

Cyfrif Banc

Bydd angen cyfrif banc arnoch i dderbyn taliadau fel:

  • Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) os ydych yn gymwys i gael addysg a pharhau mewn Addysg Amser Llawn
  • Lwfansau hyfforddi gan eich Darparwr Hyfforddiant
  • Cyflog gan eich cyflogwr

Os nad oes gennych un eisoes, mae'n bwysig trefnu cyfrif cyn gynted â phosibl.

Teithio

Os byddwch yn teithio i'r coleg neu i gael hyfforddiant, efallai y bydd gennych hawl i ostyngiad mewn costau teithio.

  • Cofrestru ar gyfer Fy Nhocyn Teithio, sef cerdyn sy’n galluogi i bobl ifanc 16-21 oed deithio’n rhatach ar fws. Mae’r cerdyn yn eich galluogi i deithio’n rhatach ar fws ledled Cymru. Cofiwch wneud cais yn gynnar fel ei fod gennych cyn i'ch cwrs ddechrau.
  • Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael cymorth ariannol ychwanegol i helpu gyda chostau trafnidiaeth. Mae rhagor o wybodaeth am y Gronfa Ariannol wrth Gefn ar gael ar wefan Coleg Gwent.

Cymorth Ariannol a Chymorth Llesiant yn y Coleg

Efallai y bydd cymorth ariannol ar gael os byddwch yn parhau mewn addysg.

  • Mae Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) yn lwfans o £40 yr wythnos i ddisgyblion 16-18 oed. Mae ar gael i ddisgyblion sy'n bodloni'r meini prawf sy'n seiliedig ar incwm yr aelwyd. Mae ceisiadau fel arfer yn agor o fis Ebrill cyn i'ch cwrs ddechrau.
  • Gall y Gronfa Ariannol Wrth Gefn rhoi cymorth ariannol ychwanegol i ddisgyblion sy'n bodloni'r meini prawf a gall helpu gyda chostau ychwanegol sy'n gysylltiedig â mynd i’r coleg, ee costau teithio, costau prydau bwyd ac unrhyw ddillad sydd eu hangen ar gyfer y cwrs. Mae’n seiliedig ar incwm yr aelwyd ac mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Coleg Gwent.
  • Gall Tîm Cymorth i Ddysgwyr Coleg Gwent ddarparu cymorth llesiant, a chynnig gwasanaeth cwnsela tra byddwch chi'n astudio. Mae rhagor o wybodaeth am gymorth llesiant ar gael ar wefan Coleg Gwent. Coleg Gwent – Cymorth i Fyfyrwyr [coleggwent.ac.uk]

Cadw gwybodaeth bwysig yn ddiogel

Mae'n hanfodol cadw eich dogfennau personol pwysig yn ddiogel, gan y bydd eu hangen arnoch ar gyfer eich darparwr ôl-16, eich cyflogwr yn y dyfodol ac at ddibenion adnabod.

Dylech wneud yn siŵr bod gennych y canlynol:

  • Eich rhif Yswiriant Gwladol (NI)
  • Eich tystysgrif geni
  • Eich pasbort (os oes gennych un)
  • Canlyniadau arholiadau TGAU

Cadwch y dogfennau hyn gyda'i gilydd mewn un lle diogel, fel ei fod yn hawdd dod o hyd iddynt pan fyddwch chi eu hangen. Efallai yr hoffech hefyd ystyried tynnu llun ohonynt neu gadw copi digidol fel copi wrth gefn.

Ymweliadau Pontio

Bydd y rhan fwyaf o golegau a darparwyr hyfforddiant yn cynnig ymweliadau pontio. Mae ymweliadau pontio yn orfodol ar gyfer rhai cyrsiau coleg (cyrsiau Lefel 1 yng Ngholeg Gwent), a gallwch golli eich lle ar y cwrs o’ch dewis os na fyddwch yn mynd iddynt. Pan fyddwch chi'n gwneud cais am goleg, byddwch yn defnyddio’ch cyfeiriad e-bost i gofrestru a bydd dyddiadau ymweliadau pontio'r coleg yn cael eu hanfon i'r cyfrif e-bost hwn.

I gael rhagor o wybodaeth am ymweliadau pontio, siaradwch â'ch darparwr ôl-16. Os ydych chi'n bwriadu mynd i Goleg Gwent, gall y Tîm Recriwtio Myfyrwyr rhoi rhagor o wybodaeth am statws eich cais a'r dyddiadau pontio.

Offer Cwrs (Cit)

Mae rhai cyrsiau yn gofyn am offer neu ddillad penodol a bydd eich coleg neu ddarparwr yn dweud wrthych beth sydd ei angen arnoch. Ceisiwch brynu hwn cyn i'ch cwrs ddechrau.

Os oes angen cymorth ariannol arnoch i brynu offer, efallai y bydd cymorth ar gael. Gofynnwch i’ch darparwr.

Budd-dal Plant

Os byddwch yn parhau mewn addysg neu hyfforddiant, peidiwch ag anghofio rhoi gwybod i CThEM gan y bydd Budd-dal Plant yn dod i ben os na fyddwch yn parhau yn y byd addysg bellach neu lwybr hyfforddi ffurfiol.

Ddim yn siŵr beth i'w wneud nesaf?

Mae'n iawn teimlo'n ansicr ynglŷn â beth i'w wneud nesaf. Mae llwybrau gwahanol ar gael ar ôl gadael yr ysgol, gan gynnwys:

Mae Gyrfa Cymru yn rhoi cyngor diduedd am ddim ar yr opsiynau sydd ar gael, a gall dîm Cymru’n Gweithio eich helpu i chwilio am swydd.

Mae gan bob Ysgol Uwchradd yn Nhorfaen Ymgynghorydd Gyrfaoedd yn eu Hysgolion Uwchradd a gallwch drefnu i siarad â nhw i gael cyngor ac arweiniad. Fel arall, gallwch drefnu apwyntiad yn swyddfa Gyrfa Cymru yng nghanol tref Cwmbrân a gallwch ei drefnu ar wefan Gyrfa Cymru.