
Paratoi ar gyfer yr Ysgol Gynradd
5 - 11 oed
Nawr bod eich plentyn wedi dechrau ei daith yn yr Ysgol Gynradd, mae yna lawer o bethau y gallwch eu gwneud i’w cefnogi i deimlo'n fodlon, yn hapus ac eisiau mynd i'r ysgol.
Mae helpu plentyn 5–11 oed i barhau i ffynnu yn yr ysgol yn cynnwys meithrin annibyniaeth, hyder a chwilfrydedd trwy drefn ddyddiol a dysgu chwareus.
Sut allwch chi helpu gartref
- Trefn arferol: Creu trefn gyson ar gyfer amser gwely a’r bore i leihau straen. Gwneud Amser Gwely’n Haws.
- Bod yn gyfrifol ac yn drefnus: Tacluso, rhoi pethau allan yn barod, pacio bag ysgol gyda llyfrau, cinio a photel ddiod.
- Hunanofal a meithrin annibyniaeth: Gwisgo ar eu pennau eu hunain, cau botymau, sips ac esgidiau.
- Bwyta: Annog bwyta'n iach gartref, gydag awgrymiadau bwyd iach ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
- Cryfhau sgiliau darllen a chyfathrebu: Darllen llyfrau gyda'ch gilydd, ymuno â'ch llyfrgell leol, siarad am eu diwrnod, gofyn cwestiynau, gwrando.
- Ymarfer ysgrifennu: Annog tynnu lluniau, peintio a chwarae gyda deunyddiau hyblyg i helpu i wella sgiliau motor manwl i baratoi ar gyfer gafael mewn pensil i gefnogi sgiliau ysgrifennu cynnar. Ar gyfer plant hŷn, ymarfer labelu lluniau, torri, neu ysgrifennu nodiadau byr i gryfhau sgiliau motor manwl.
- Diogelwch Ar-lein: Siarad â'ch plentyn am bwysigrwydd cadw’n ddiogel ar-lein. Mae gan Hwb amrywiaeth o gyngor i deuluoedd.
- Amgylcheddau ystafell ddosbarth: Ymarfer teithiau i'r ysgol, cwrdd ag athrawon ac ymweld ag ystafelloedd dosbarth.
- Trafod yr ysgol yn gadarnhaol: Ei gwneud yn antur gyffrous yn hytrach na rhywbeth brawychus.
- Adeiladu cyfeillgarwch: Trefnu dyddiadau chwarae neu weithgareddau grŵp i'w helpu i ddysgu cydweithredu.
- Ymrwymiadau gwaith cartref ysgafn: Defnyddio chwilfrydedd trwy chwarae, posau i helpu i sbarduno sgiliau datrys problemau a neilltuo amser i'w cwblhau. Gwneud gwaith cartref.
- Bod yn ddiogel ar y ffyrdd: Mae cadw'ch plentyn yn ddiogel ar y ffyrdd yn hynod bwysig unwaith y byddant yn dechrau sefydlu eu hannibyniaeth eu hunain. Mae gan Diogelwch Ffyrdd Cymru lawer o wybodaeth ar sut i gerdded yn ddiogel i'r ysgol. Mae gan Rospa ganllaw defnyddiol i deuluoedd hefyd.
Pam ei fod yn bwysig ar gyfer presenoldeb
Mae ymgyrch #DdimMewnColliMas y Cyngor yn dathlu'r manteision amrywiol o fynd i'r ysgol bob dydd. Chwiliwch yr hashnod ar y cyfryngau cymdeithasol i ddarganfod beth sy'n digwydd yn eich ysgol leol.
This content is hosted by a third party. By showing the external content you accept these terms and conditions.
Nodyn atgoffa ar gyfer paratoi ar gyfer Derbyn i Ysgolion
Fel arfer, mae plant yn dechrau yn yr ysgol gynradd ar ddechrau'r flwyddyn ysgol y mae eu pen-blwydd yn bump oed yn disgyn ynddi (h.y. 1 Medi i 31 Awst yn gynhwysol). Gwneud cais am ddosbarth Derbyn.
Fel arfer, mae plant yn trosglwyddo o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd ar ddechrau'r flwyddyn ysgol y mae eu pen-blwydd yn ddeuddeg oed yn disgyn ynddi (h.y. 1 Medi i 31 Awst yn gynhwysol). Gwneud cais am Ysgol Uwchradd.
